Cwmllynfell Rugby

CROESO  I   BARC  Y  BRYN

Wel, dyma ni yn eich croesawu unwaith eto i Barc y Bryn yn ein pumed tymor yn olynol yn Adran Gyntaf (Gorllewin) Cynghrair

Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r ffaith ein bod “yma o hyd” yn yr Adran Gyntaf yn dipyn o wyrth gan gofio am ein “dihangfa Houdini” ddiwedd y tymor diwethaf pan oedd ein sefyllfa yn edrych yn eitha tywyll a dim ond ychydig o gemau ar ol cyn diwedd y tymor, ond yn ffodus roedd rhan fwyaf o’r gemau hynny gartre ar y Bryn, ac anaml iawn  mae’r ymwelwyr yn ennill ar Barc y Bryn, ac felly y bu llynedd oherwydd enillodd y tîm gemau pwysig yn erbyn Corus, Felinfoel, Maesteg, Llangennech ac Athletig Caerfyrddin oedd yn dangos cymeriad y chwaraewyr o dan arweiniad ysbrydoledig ein capten bytholwyrdd Jim Morgan ,sy’n rhoi ei orau cant y cant bob gêm, ac yn ysbrydoliaeth i weddill y tîm.

Does dim dwywaith fod arweiniad Jim a dawn arbennig yr

hyfforddwr Meic Lewis yn allweddol yn y ffaith ein bod yn dal o hyd yn yr Adran Gyntaf ymhlith clybiau gorau’r Undeb.Gobeithio y bydd hynny yn parhau a dymunwn bob lwc i’r tîm a’r hyfforddwyr.

Da dweud bod cnewyllyn carfan llynedd yn dal i fod gyda ni

gydag ambell newyddian wedi ymuno ar gyfer y tymor newydd hwn.Ar ddechrau tymor newydd arall, rhaid cydnabod ffyddlondeb a theyrngarwch y prif swyddogion a’r pwyllgor sydd gyda ni o hyd, gan ddiolch hefyd i’r cefnogwyr ffyddlon am eu cefnogaeth gyson ar hyd y blynyddoedd.  

 

John “Bach” Evans

 

To change Your Site Name go to the 'Page Master' under the 'Design' menu

CWMLLYNFELL RFC

You are viewing the text version of this site.

To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.

Need help? check the requirements page.

Get Flash Player